CYPE(5)-03-16 – Papur 5 – i’w nodi
18 Gorffennaf 2016
Annwyl Gadeiryddion y Pwyllgorau
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18
Yn ein cyfarfod ar 14 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor Cyllid ar y ffordd orau o graffu ar y gyllideb. Rwy'n ysgrifennu at holl Gadeiryddion y Pwyllgorau i rannu ein syniadau ac i annog eich pwyllgorau i ystyried sut y gallant gyfrannu at gyflawni'r gwaith craffu mwyaf rhesymegol ac effeithiol ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth.
Rhoi sylw i'r gyllideb
Yn y Pedwerydd Cynulliad cytunodd yr holl Bwyllgorau i fabwysiadu dull cydgysylltiedig ar gyfer craffu ar y gyllideb yn seiliedig ar y perfformiad a'r canlyniadau sydd i'w sicrhau gyda'r adnoddau sydd ar gael, a'r blaenoriaethau a nodwyd gan y cyhoedd yn gyffredinol (yn seiliedig ar adborth o waith ymgysylltu).
Roedd y dull hwn yn ymwneud â'r pedair egwyddor o ran craffu ariannol, sef: fforddiadwyedd, blaenoriaethu, gwerth am arian a phroses. Defnyddiwyd yr egwyddorion hyn yn sail i holl bapurau briffio, sesiynau tystiolaeth ac adroddiadau'r Pwyllgor. Yr egwyddorion yw:
· Fforddiadwyedd - edrych ar y darlun mawr o ran cyfanswm y refeniw a gwariant, ac a oes cydbwysedd priodol;
· Blaenoriaethu - a yw'r dyraniadau wedi'u rhannu rhwng sectorau/rhaglenni gwahanol mewn ffordd resymol y gellir ei chyfiawnhau?
· Gwerth am arian - yn y bôn, a yw cyrff cyhoeddus yn gwario eu dyraniadau yn dda – economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd (hynny yw, canlyniadau; a
· Phrosesau'r gyllideb - a ydynt yn effeithiol ac yn hygyrch ac a oes integreiddio rhwng cynllunio corfforaethol a chynllunio gwasanaethau, a rheoli perfformiad a rheoli ariannol?
Rydym wedi nodi nifer o feysydd yr hoffem weld y gwaith craffu yn canolbwyntio arnynt, sef:
- Dull gweithredu o ran gwariant ataliol, a sut y cynrychiolir hwn wrth ddyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau a lliniaru'r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar).
- Polisïau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi, lliniaru effeithiau diwygio lles a pharatoi ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio
- Cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, arloesi a thrawsnewid gwasanaethau
- Trefniadau ariannol byrddau iechyd lleol
- Paratoi i'r DU adael yr UE
- Cyllidebu carbon isel a pharatoi ar gyfer Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol
- Paratoi ar gyfer effaith y datganoli pellach sy'n rhan o Fil Cymru
- Effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ac a oes digon o adnoddau ar gyfer ei rhoi ar waith.
- Craffu ar y Gymraeg, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.
Anogir chi i ddefnyddio rhai o'r meysydd hyn fel ffocws eich gwaith craffu ar y gyllideb.
Ymgynghoriad drafft y gyllideb
Fel yn y gorffennol, rydym yn ymgynghori yn ystod toriad yr haf. Hefyd, rydym yn bwriadu cael math o 'sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol' pan fydd y gyllideb ddrafft wedi'i chyhoeddi, a fydd yn galluogi rhanddeiliaid i fynegi barn ychwanegol ar y ffigurau a gyhoeddir o fewn y gyllideb ddrafft. Rydym yn eich gwahodd i dynnu sylw'ch rhanddeiliaid at ein hymgynghoriad.
Amserlen
Fel y gwyddoch erbyn hyn, mae'r dyddiadau ar gyfer y gyllideb ddrafft bellach wedi'u cytuno fel a ganlyn:
· Gosod y Gyllideb Ddrafft – 18 Hydref
· Y dyddiad cau i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad – 29 Tachwedd (5 wythnos eistedd/6 wythnos i gyd)
· Y ddadl ar y Gyllideb Ddrafft – 6 Rhagfyr
· Cyflwyno Cynnig y Gyllideb Flynyddol – 20 Rhagfyr
Yn unol â Rheol Sefydlog 20.10, os bydd eich Pwyllgor am gyflwyno adroddiad ar y gyllideb, byddai'n dda cael yr ymateb erbyn dydd Gwener 18 Tachwedd.
Yn olaf, os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw agwedd ar broses y gyllideb ddrafft, mae croeso i chi gysylltu â mi neu Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor Cyllid ar 0300 200 6372, neu Bethan.Davies@Cynulliad.Cymru .
Yn gywir
Simon Thomas
Cadeirydd